Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 6 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Casgliadau'r Rhaglen Garlam Annibynnol i Adolygu Galwadau Oren (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesurau Arbennig (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cofio ein Lluoedd Arfog a Chyflawni ar gyfer Cymuned ein Lluoedd Arfog (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ifori (15 munud)

·         Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) (5 munud)

·         Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017/18 (60 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud)

·         Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd – Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) (30 munud)

Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Agwedd Genedlaethol at Ddysgu Proffesiynol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Ofal, a Gwaith Grŵp Ymgynghorol y Gweinidog (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:Lles Anifeiliaid (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Cyflawni ar gyfer y Gaeaf (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud): 

o   Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

o   Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18 (60 munud)

 

Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei Ymchwiliad i’r Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl fer - Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwaith trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc (30 munud)

·         Dadl: Sut y gallwn greu system ynni carbon isel i Gymru? (60 munud)

Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (60 munud)

·         Dadl fer - Rhiannon Passmore (Islwyn) (30 munud)